Cemeg

12. Paratoi ester a’i wahanu drwy ddistyllu

  • 00:33 Beth yw gronigion gwrth-ysgytiad a sut maen nhw’n gweithio?
  • 00:45 Pam mae chwyrlio’r fflasg yn gwneud y dull yn fwy diogel?
  • 00:48 Beth yw tymheredd berwi ethyl ethanoad?
  • 00:53 Pam mae tymheredd y baddon dŵr yn bwysig?
  • 01:04 Beth yw pwrpas y rhwyllen?
  • 01:21 Pam mae lleoliad bwlb y thermomedr yn bwysig?
  • 01:27 Beth yw’r distyllad’?
  • 01:27 Beth yw tymheredd berwi'r cynnyrch? Pam mae hyn yn bwysig i'w ystyried ar hyn o bryd? 
  • 01:45 Sut mae’r tymheredd hwn yn cymharu â data sydd wedi cael ei gyhoeddi? 

 

  • fflasg fongron 100 cm3

  • bicer 100 cm3

  • fflasg gonigol 100 cm3

  • silindr mesur 10 cm3

  • silindr mesur 25 cm3

  • cyddwysydd adlifo

  • thermomedr

  • tiwb sbesimen

  • labeli / pin-ffelt (inc parhaol)

  • gronigion gwrth-ysgytiad

  • baddon dŵr (~50oC)

Perygl Risg Mesur rheoli

ethanol – fflamadwy iawn

Gall danio oherwydd fflam y gwresogydd Bunsen.

Dillad ar dân: mygwch y fflamau gan ddefnyddio planced dân. Oerwch groen sydd wedi cael llosg o dan y tap (10 munud).

asid ethanoig– llidol

Cyffwrdd â’r llygaid/croen.

Llygad: golchwch â digonedd o ddŵr (10 munud) Croen: trochwch â digonedd o ddŵr  

hydoddiant H2SO4 crynodedig – cyrydol

Cyffwrdd â’r llygaid/croen.

Llygad: golchwch â digonedd o ddŵr (10 munud). Cysylltwch â meddyg.
Croen: defnyddiwch glwt sych/tywel papur i sychu’r asid ac yna trochi’r croen â dŵr.