Cemeg

11. Adwaith amnewid niwcleoffilig

  • 00:40 Beth yw ‘ysgytiad’? Sut mae’r gronigion gwrth-ysgytiad yn gweithio?  
  • 00:55 Beth sy’n digwydd yn ystod adlifo?
  • 01:23 Beth yw pwrpas y rhwyllen?
  • 01:40 Beth yw manteision mantell wresogi o’i chymharu â gwresogydd Bunsen?
  • 01:50 Beth yw pwrpas y thermomedr?
  • 02:13 Beth yw tymheredd yr anwedd?
  • 02:21 Sut y gellir profi am y cynnyrch?
  • fflasg fongron 100 cm3

  • bicer 100 cm3

  • fflasg gonigol 100 cm3

  • silindr mesur 25 cm3

  • cyddwysydd adlifo

  • thermomedr

  • tiwb sbesimen

  • labeli / pin-ffelt (inc parhaol)

  • gronigion gwrth-ysgytiad

  • mantell wresogi / gwresogydd Bunsen a baddon dŵr

  • Stand clamp 

Perygl Risg Mesur rheoli

0.1mol dm-3 hydoddiant NaOH – dim perygl 

Cyffwrdd â’r llygaid / croen.

Llygad: golchi â digonedd o ddŵr tap (10 munud). Croen: golchi â digonedd o ddŵr.

1-bromobwtan – fflamadwy,perygl iechyd difrifol, peryglus i’r amgylchedd dŵr.

Gall gynnau pan fo’n agos at wresogydd Bunsen.  

Cyffwrdd â’r llygaid a’r croen.

Llygad: golchwch â digonedd o ddŵr – cysylltwch â meddyg. 
Croen: golchwch â sebon a dŵr. Diffoddwch fflamau gyda phlanced dân